20 Ac a'u dygasant hwy at y swyddogion, ac a ddywedasant, Y mae'r dynion hyn, y rhai ydynt Iddewon, yn llwyr gythryblio ein dinas ni,
21 Ac yn dysgu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn na'u gwneuthur, y rhai ydym Rufeinwyr.
22 A'r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy; a'r swyddogion, gan rwygo eu dillad, a orchmynasant eu curo hwy â gwiail.
23 Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt, hwy a'u taflasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel;
24 Yr hwn, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a'u bwriodd hwy i'r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion.
25 Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo, ac yn canu mawl i Dduw: a'r carcharorion a'u clywsant hwy.
26 Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau'r carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.