25 Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo, ac yn canu mawl i Dduw: a'r carcharorion a'u clywsant hwy.
26 Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau'r carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.
27 A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau'r carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun; gan dybied ffoi o'r carcharorion ymaith.
28 Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll.
29 Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas,
30 Ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, O feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?
31 A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu.