28 Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll.
29 Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas,
30 Ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, O feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?
31 A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu.
32 A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef.
33 Ac efe a'u cymerth hwy yr awr honno o'r nos, ac a olchodd eu briwiau: ac efe a fedyddiwyd, a'r eiddo oll, yn y man.
34 Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i'w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a'i holl deulu.