31 A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu.
32 A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef.
33 Ac efe a'u cymerth hwy yr awr honno o'r nos, ac a olchodd eu briwiau: ac efe a fedyddiwyd, a'r eiddo oll, yn y man.
34 Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i'w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a'i holl deulu.
35 A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion a anfonasant y ceisiaid, gan ddywedyd, Gollwng ymaith y dynion hynny.
36 A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y swyddogion a anfonasant i'ch gollwng chwi ymaith: yn awr gan hynny cerddwch ymaith; ewch mewn heddwch.
37 Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau'n Rhufeinwyr, hwy a'n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan.