37 Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau'n Rhufeinwyr, hwy a'n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan.
38 A'r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i'r swyddogion: a hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt.
39 A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt, ac a'u dygasant allan, ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o'r ddinas.
40 Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia: ac wedi gweled y brodyr, hwy a'u cysurasant, ac a ymadawsant.