4 Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy'r dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw'r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a'r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem.
5 Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd.
6 Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu'r gair yn Asia;
7 Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia: ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt.
8 Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Droas.
9 A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni.
10 A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy.