1 Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i'r Iddewon.
2 A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o'r ysgrythurau,
3 Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw'r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi.
4 A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o'r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o'r gwragedd pennaf nid ychydig.
5 Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl.
6 A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o'r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu'r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd;
7 Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae'r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu.