13 A phan wybu'r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi'r dyrfa.
14 Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i'r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno.
15 A chyfarwyddwyr Paul a'i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.
16 A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod.
17 Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â'r Iddewon, ac â'r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd â'r rhai a gyfarfyddent ag ef.
18 A rhai o'r philosophyddion o'r Epicuriaid, ac o'r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai'r siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu'r Iesu, a'r atgyfodiad, iddynt.
19 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw'r ddysg newydd hon, a draethir gennyt?