26 Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt;
27 Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom:
28 Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o'ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.
29 Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn.
30 A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau:
31 Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.
32 A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a'th wrandawn drachefn am y peth hwn.