1 Ar ôl y pethau hyn, Paul a ymadawodd ag Athen, ac a ddaeth i Gorinth.
2 Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a'i enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o'r Ital, a'i wraig Priscila, (am orchymyn o Claudius i'r Iddewon oll fyned allan o Rufain,) efe a ddaeth atynt.
3 Ac, oherwydd ei fod o'r un gelfyddyd, efe a arhoes gyda hwynt, ac a weithiodd; (canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd.)
4 Ac efe a ymresymodd yn y synagog bob Saboth, ac a gynghorodd yr Iddewon, a'r Groegiaid.