20 A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy, ni chaniataodd efe:
21 Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae'n anghenraid i mi gadw'r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem; ond os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn. Ac efe a aeth ymaith o Effesus.
22 Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea, efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i waered i Antiochia.
23 Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith, gan dramwy trwy wlad Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.
24 Eithr rhyw Iddew, a'i enw Apolos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythurau, a ddaeth i Effesus.
25 Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i'r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig.
26 A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach.