4 Ac efe a ymresymodd yn y synagog bob Saboth, ac a gynghorodd yr Iddewon, a'r Groegiaid.
5 A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd, ac efe a dystiolaethodd i'r Iddewon, mai Iesu oedd Crist.
6 A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi: o hyn allan mi a af at y Cenhedloedd.
7 Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ un a'i enw Jwstus, un oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â'r synagog.
8 A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a'i holl dŷ: a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd.
9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos, Nac ofna; eithr llefara, ac na thaw:
10 Canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti: oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon.