19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg.
20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.
21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.
22 Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau:
23 Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch:
24 Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo.
25 Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgoger.