22 Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau:
23 Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch:
24 Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo.
25 Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgoger.
26 Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a'm cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith:
27 Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.
28 Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a'm cyflawni o lawenydd â'th wynepryd.