3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt.
4 A hwy oll a lanwyd â'r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd.
5 Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef.
6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun.
7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw'r rhai hyn oll sydd yn llefaru?
8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y'n ganed ni?
9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia,