26 Yna Paul a gymerth y gwŷr; a thrannoeth, gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt, efe a aeth i mewn i'r deml; gan hysbysu cyflawni dyddiau'r glanhad, hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt.
27 A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno,
28 Gan lefain, Ha wŷr Israeliaid, cynorthwywch. Dyma'r dyn sydd yn dysgu pawb ym mhob man yn erbyn y bobl, a'r gyfraith, a'r lle yma: ac ymhellach, y Groegiaid hefyd a ddug efe i mewn i'r deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn.
29 Canys hwy a welsent o'r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i'r deml.
30 A chynhyrfwyd y ddinas oll, a'r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a'i tynasant ef allan o'r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau.
31 Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben‐capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg.
32 Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen‐capten a'r milwyr, a beidiasant â churo Paul.