21 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys mi a'th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd.
22 A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, Ymaith â'r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys ei fod ef yn fyw.
23 Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr,
24 Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly.
25 Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd?
26 A phan glybu'r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r pen‐capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw'r dyn hwn.
27 A'r pen‐capten a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie.