1 A phaul, yn edrych yn graff ar y cyngor, a ddywedodd, Ha wŷr frodyr, mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddiw.
2 A'r archoffeiriad Ananeias a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, ei daro ef ar ei enau.
3 Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a'th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ôl y ddeddf, a chan droseddu'r ddeddf yn peri fy nharo i?
4 A'r sefyllwyr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di archoffeiriad Duw?
5 A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl.
6 A phan wybu Paul fod y naill ran o'r Sadwceaid, a'r llall o'r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.