14 A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a'r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a'n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul.
15 Yn awr gan hynny hysbyswch gyda'r cyngor i'r pen‐capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef: a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd ef.
16 Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i'r castell, ac a fynegodd i Paul.
17 A Phaul a alwodd un o'r canwriaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten; canys y mae ganddo beth i'w fynegi iddo.
18 Ac efe a'i cymerth ef, ac a'i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a'm galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i'w ddywedyd wrthyt.
19 A'r pen‐capten a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o'r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw'r hyn sydd gennyt i'w fynegi i mi?
20 Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i'r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef.