2 A'r archoffeiriad Ananeias a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, ei daro ef ar ei enau.
3 Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a'th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ôl y ddeddf, a chan droseddu'r ddeddf yn peri fy nharo i?
4 A'r sefyllwyr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di archoffeiriad Duw?
5 A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl.
6 A phan wybu Paul fod y naill ran o'r Sadwceaid, a'r llall o'r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.
7 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Phariseaid a'r Sadwceaid: a rhannwyd y lliaws.
8 Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad, nac angel, nac ysbryd: eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o'r ddau.