23 Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o'r nos;
24 A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i'w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw.
25 Ac efe a ysgrifennodd lythyr, yn cynnwys yr ystyriaeth yma:
26 Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, yn anfon annerch.
27 Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â'i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd.
28 A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a'i dygais ef i waered i'w cyngor hwynt:
29 Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o'u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau.