27 Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â'i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd.
28 A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a'i dygais ef i waered i'w cyngor hwynt:
29 Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o'u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau.
30 A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i'r gŵr, myfi a'i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach.
31 Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a'i dygasant o hyd nos i Antipatris.
32 A thrannoeth, gan adael i'r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i'r castell:
33 Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi'r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.