30 A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i'r gŵr, myfi a'i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach.
31 Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a'i dygasant o hyd nos i Antipatris.
32 A thrannoeth, gan adael i'r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i'r castell:
33 Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi'r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.
34 Ac wedi i'r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd;
35 Mi a'th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.