6 A phan wybu Paul fod y naill ran o'r Sadwceaid, a'r llall o'r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.
7 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Phariseaid a'r Sadwceaid: a rhannwyd y lliaws.
8 Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad, nac angel, nac ysbryd: eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o'r ddau.
9 A bu llefain mawr: a'r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr os ysbryd a lefarodd wrtho, neu angel, nac ymrysonwn â Duw.
10 Ac wedi cyfodi terfysg mawr, y pen‐capten, yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i'r milwyr fyned i waered, a'i gipio ef o'u plith hwynt, a'i ddwyn i'r castell.
11 Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur: canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.
12 A phan aeth hi yn ddydd, rhai o'r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a'u rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul.