20 Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor;
21 Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y'm bernir heddiw gennych.
22 Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a'u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i'r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl.
23 Ac efe a archodd i'r canwriad gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac na lesteiriai neb o'r eiddo ef i'w wasanaethu, nac i ddyfod ato.
24 Ac ar ôl talm o ddyddiau, y daeth Ffelix, gyda'i wraig Drusila, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a'i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist.
25 Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.
26 A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.