1 Ffestus gan hynny, wedi dyfod i'r dalaith, ar ôl tri diwrnod a aeth i fyny i Jerwsalem o Cesarea.
2 Yna yr ymddangosodd yr archoffeiriad a phenaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef,
3 Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef, fel y cyrchai efe ef i Jerwsalem, gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.
4 A Ffestus a atebodd, y cedwid Paul yn Cesarea, ac yr âi efe ei hun yno ar fyrder.