11 Canys os ydwyf yn gwneuthur cam, ac os gwneuthum ddim yn haeddu angau, nid wyf yn gwrthod marw: eithr onid oes dim o'r pethau y mae'r rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Apelio yr wyf at Gesar.
12 Yna Ffestus, wedi ymddiddan â'r cyngor, a atebodd, A apeliaist ti at Gesar? at Gesar y cei di fyned.
13 Ac wedi talm o ddyddiau, Agripa y brenin a Bernice a ddaethant i Cesarea i gyfarch Ffestus.
14 Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus a fynegodd i'r brenin hanes Paul, gan ddywedyd, Y mae yma ryw ŵr wedi ei adael gan Ffelix yng ngharchar:
15 Ynghylch yr hwn, pan oeddwn yn Jerwsalem, yr ymddangosodd archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon gerbron, gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef.
16 I'r rhai yr atebais, nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i'w ddifetha, nes cael o'r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael lle i'w amddiffyn ei hun rhag y cwyn.
17 Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc, ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron.