16 I'r rhai yr atebais, nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i'w ddifetha, nes cael o'r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael lle i'w amddiffyn ei hun rhag y cwyn.
17 Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc, ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron.
18 Am yr hwn ni ddug y cyhuddwyr i fyny ddim achwyn o'r pethau yr oeddwn i yn tybied:
19 Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coelgrefydd eu hunain, ac ynghylch un Iesu a fuasai farw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw.
20 A myfi, yn anhysbys i ymofyn am hyn, a ddywedais, a fynnai efe fyned i Jerwsalem, a'i farnu yno am y pethau hyn.
21 Eithr gwedi i Paul apelio i'w gadw i wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Gesar.
22 Yna Agripa a ddywedodd wrth Ffestus, Minnau a ewyllysiwn glywed y dyn. Yntau a ddywedodd, Ti a gei ei glywed ef yfory.