2 Yna yr ymddangosodd yr archoffeiriad a phenaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef,
3 Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef, fel y cyrchai efe ef i Jerwsalem, gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.
4 A Ffestus a atebodd, y cedwid Paul yn Cesarea, ac yr âi efe ei hun yno ar fyrder.
5 Y rhai gan hynny a allant yn eich mysg, eb efe, deuant i waered gyda mi, ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn, cyhuddant ef.
6 A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod, efe a aeth i waered i Cesarea; a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul ato.
7 Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered, a safasant o'i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi.
8 Ac yntau yn ei amddiffyn ei hun, Ni phechais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar.