11 Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i'r pethau a ddywedid gan Paul.
12 A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i aeafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau‐orllewin, a'r gogledd‐orllewin.
13 A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt‐hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta.
14 Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon.
15 A phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu'r gwynt, ni a ymroesom, ac a ddygwyd gyda'r gwynt.
16 Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad:
17 Yr hwn a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu'r llong oddi dani: a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly.