2 Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o'r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica.
3 A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd.
4 Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom dan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.
5 Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, ni a ddaethom i Myra, dinas yn Lycia.
6 Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i'r Ital, a'n gosododd ni ynddi.
7 Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus, am na adawai'r gwynt i ni, ni a hwyliasom islaw Creta, ar gyfer Salmone.
8 Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo.