28 Ac wedi iddynt blymio, hwy a'i cawsant yn ugain gwryd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a'i cawsant yn bymtheg gwryd.
29 Ac a hwy'n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o'r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd.
30 Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i'r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o'r pen blaen i'r llong,
31 Dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.
32 Yna y torrodd y milwyr raffau'r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.
33 A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim.
34 Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i'r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben.