38 Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw'r gwenith allan i'r môr.
39 A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i'r hon y cyngorasant, os gallent, wthio'r llong iddi.
40 Ac wedi iddynt godi'r angorau, hwy a ymollyngasant i'r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i'r gwynt, ac a geisiasant y lan.
41 Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau.
42 A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith.
43 Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a'r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i'r môr, a myned allan i'r tir:
44 Ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.