1 Ac wedi iddynt ddianc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys.
2 A'r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd‐dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol, ac oherwydd yr oerfel.
3 Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a'u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o'r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef.
4 A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Yn sicr llawruddiog yw'r dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o'r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw.
5 Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed.
6 Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe.