21 A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti.
22 Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied: oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn.
23 Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i'w lety; i'r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a'r proffwydi, o'r bore hyd yr hwyr.
24 A rhai a gredasant i'r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant.
25 Ac a hwy yn anghytûn â'i gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni,
26 Gan ddywedyd, Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch:
27 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â'u clustiau, a'u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt.