27 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â'u clustiau, a'u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt.
28 Bydded hysbys i chwi gan hynny, anfon iachawdwriaeth Duw at y Cenhedloedd; a hwy a wrandawant.
29 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith.
30 A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a'r oedd yn dyfod i mewn ato,
31 Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.