1 Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a'r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy;
2 Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu'r bobl, ac yn pregethu trwy'r Iesu yr atgyfodiad o feirw.
3 A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a'u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr.
4 Eithr llawer o'r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi'r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.
5 A digwyddodd drannoeth ddarfod i'w llywodraethwyr hwy, a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem,