10 Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi.
11 Hwn yw'r maen a lyswyd gennych chwi'r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i'r gongl.
12 Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.
13 A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a'u hadwaenent, eu bod hwy gyda'r Iesu.
14 Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i'w ddywedyd yn erbyn hynny.
15 Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o'r gynghorfa, hwy a ymgyngorasant â'i gilydd,
16 Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i'r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu.