13 A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a'u hadwaenent, eu bod hwy gyda'r Iesu.
14 Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i'w ddywedyd yn erbyn hynny.
15 Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o'r gynghorfa, hwy a ymgyngorasant â'i gilydd,
16 Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i'r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu.
17 Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn.
18 A hwy a'u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu.
19 Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi.