20 Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom.
21 Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i'w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.
22 Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth.
23 A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai'r archoffeiriaid a'r henuriaid wrthynt.
24 Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw'r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a'r ddaear, a'r môr, ac oll sydd ynddynt;
25 Yr hwn trwy'r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer?
26 Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a'r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.