24 Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw'r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a'r ddaear, a'r môr, ac oll sydd ynddynt;
25 Yr hwn trwy'r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer?
26 Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a'r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.
27 Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda'r Cenhedloedd, a phobl Israel,
28 I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a'th gyngor di eu gwneuthur.
29 Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i'th weision draethu dy air di gyda phob hyfder;
30 Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.