28 I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a'th gyngor di eu gwneuthur.
29 Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i'th weision draethu dy air di gyda phob hyfder;
30 Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.
31 Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o'r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.
32 A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a'r a feddai yn eiddo ei hunan, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin.
33 A'r apostolion trwy nerth mawr a roddasant dystiolaeth o atgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a gras mawr oedd arnynt hwy oll.
34 Canys nid oedd un anghenus yn eu plith hwy: oblegid cynifer ag oedd berchen tiroedd neu dai, a'u gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid,