34 Canys nid oedd un anghenus yn eu plith hwy: oblegid cynifer ag oedd berchen tiroedd neu dai, a'u gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid,
35 Ac a'u gosodasant wrth draed yr apostolion: a rhannwyd i bob un megis yr oedd yr angen arno.
36 A Joseff, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (yr hyn o'i gyfieithu yw, Mab diddanwch,) yn Lefiad, ac yn Gypriad o genedl,
37 A thir ganddo, a'i gwerthodd, ac a ddug yr arian, ac a'i gosododd wrth draed yr apostolion.