5 A digwyddodd drannoeth ddarfod i'w llywodraethwyr hwy, a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem,
6 Ac Annas yr archoffeiriad, a Chaiaffas, ac Ioan, ac Alexander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad.
7 Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn?
8 Yna Pedr, yn gyflawn o'r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel,
9 Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i'r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef;
10 Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi.
11 Hwn yw'r maen a lyswyd gennych chwi'r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i'r gongl.