1 Eithr rhyw ŵr a'i enw Ananeias gyda Saffira ei wraig, a werthodd dir,
2 Ac a ddarnguddiodd beth o'r gwerth, a'i wraig hefyd o'r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a'i gosododd wrth draed yr apostolion.
3 Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir?
4 Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.
5 Ac Ananeias, pan glybu'r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu'r pethau hyn.
6 A'r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a'i cymerasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant.