13 Eithr ni feiddiai neb o'r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau.
14 A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd:)
15 Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel o'r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt.
16 A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o'r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.
17 A'r archoffeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi'r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen,
18 Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a'u rhoesant yn y carchar cyffredin.
19 Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau'r carchar, ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd,