17 A'r archoffeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi'r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen,
18 Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a'u rhoesant yn y carchar cyffredin.
19 Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau'r carchar, ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd,
20 Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau'r fuchedd hon.
21 A phan glywsant, hwy a aethant yn fore i'r deml, ac a athrawiaethasant. Eithr daeth yr archoffeiriad, a'r rhai oedd gydag ef, ac a alwasant ynghyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i'r carchar i'w dwyn hwy gerbron.
22 A'r swyddogion, pan ddaethant, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant,
23 Gan ddywedyd, Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o'r fath sicraf, a'r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.