25 Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae'r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl.
26 Yna y blaenor, gyda'r swyddogion, a aeth, ac a'u dug hwy heb drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio;
27 Ac wedi eu dwyn, hwy a'u gosodasant o flaen y cyngor: a'r archoffeiriad a ofynnodd iddynt,
28 Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â'ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.
29 A Phedr a'r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.
30 Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren.
31 Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.