29 A Phedr a'r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.
30 Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren.
31 Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.
32 A nyni ydym ei dystion ef o'r pethau hyn, a'r Ysbryd Glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i'r rhai sydd yn ufuddhau iddo ef.
33 A phan glywsant hwy hynny, hwy a ffromasant, ac a ymgyngorasant am eu lladd hwynt.
34 Eithr rhyw Pharisead a'i enw Gamaliel, doctor o'r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fyny yn y cyngor, ac a archodd yrru'r apostolion allan dros ennyd fechan;
35 Ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn.