39 Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw.
40 A chytuno ag ef a wnaethant. Ac wedi iddynt alw'r apostolion atynt, a'u curo, hwy a orchmynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymaith.
41 A hwy a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef amarch o achos ei enw ef.
42 A beunydd yn y deml, ac o dŷ i dŷ, ni pheidiasant â dysgu a phregethu Iesu Grist.